Mae gan bawb bwnc arbenigol a phwnc arbenigol Addysgwyr Cymru yw helpu i gysylltu unigolion sy’n chwilio am rôl yn y sector addysg â’r hyfforddiant, cyngor gyrfaoedd a mynediad at y swyddi sydd ar gael.

Mae’r wefan am ddim, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig tri phrif wasanaeth:

  • Cyfle i ddod o hyd i’ch swydd ddelfrydol ym myd addysg – lle gallwch chwilio am swyddi sydd ar gael ledled Cymru (mewn ysgolion, colegau, lleoliadau dysgu seiliedig ar waith, gwaith ieuenctid, ac addysg oedolion) neu uwchlwytho’ch CV fel y gall cyflogwyr ddod o hyd i chi’n hawdd.
  • Mynediad at gyngor gyrfaoedd – os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am yrfaoedd mewn ysgolion, addysg bellach, lleoliadau dysgu seiliedig ar waith, gwaith ieuenctid neu ddysgu oedolion – mae cyflwyniad i’r gwahanol rolau a sut i gael mynediad atynt.
  • Cyngor a gwybodaeth am ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant i’ch helpu i gael y swydd o’ch dewis.

Os ydych chi eisiau cymryd y cam cyntaf yn eich gyrfa, eisiau symud ymlaen i’r cam nesaf, yn ystyried newid gyrfa, yn chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli neu efallai’n ystyried ailddechrau gweithio ar ôl ymddeol, yna Addysgwyr Cymru yw’r lle i gael mynediad at gyfleoedd gyrfa a swyddi llawn amser a rhan amser.

Eisiau gwybod mwy? Os ydych chi’n gwybod beth rydych chi’n chwilio amdano ac eisiau dechrau chwilio am rôl addysgu, porwch drwy swyddi gwag cyfredol ledled Cymru drwy ymweld â Chwilio am Swyddi | Addysgwyr Cymru Neu ymunwch â chronfa dalent Addysgwyr Cymru fel y gall cyflogwyr ddod o hyd i chi’n hawdd. Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw cofrestru ar y porth a dewis allweddeiriau, teitlau swyddi a lleoliadau o’ch dewis, fel y gall cyflogwyr gysylltu â chi yn seiliedig ar eich addasrwydd. Neu os ydych chi ar fin dechrau gyrfa ym myd addysg, edrychwch ar yr adnoddau datblygiad proffesiynol ar wefan Addysgwyr Cymru a chael cyngor ar eich cam nesaf Hafan | Addysgwyr Cymru