Adborth Myfyrwyr

Ardystiad Proffesiynol Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru – Cwestiynau i fyfyrwyr presennol/diweddar

 

 

Annwyl fyfyriwr / gyn-fyfyriwr

Hoffem gael eich barn am y rhaglen uchod, yr ydych yn ymgymryd â hi neu wedi ymgymryd â hi yn ddiweddar. 

Mae ETS Cymru yn cymeradwyo rhaglenni hyfforddiant gwaith ieuenctid yn broffesiynol i sicrhau eu bod o ansawdd addas a pherthnasol i anghenion cyflogwyr, gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc. 

Mae’n gwneud hyn ar ran Cydbwyllgor Trafod Gwaith Ieuenctid a Chymuned (CBT). Mae hyn yn golygu drwy gwblhau un o’r rhaglenni hyn yn llwyddiannus byddwch yn cael eich cydnabod ar draws y DU ac Iwerddon fel Gweithiwr Ieuenctid Proffesiynol CBT cymwys. Yng Nghymru mae hyn hefyd yn golygu y gallwch gael eich cofrestru gyda’r Cyngor Gweithlu Addysg ynghyd ag athrawon a gweithwyr addysg eraill. 

Bydd panel yn cynrychioli ETS Cymru yn cwrdd â’r staff rheoli a darlithio a chyflogwyr lleol i’w holi am natur y rhaglen waith ieuenctid a ddarperir. Mae’r panel hefyd fel arfer yn cwrdd â myfyrwyr presennol a diweddar ond ble nad yw hyn yn bosibl rydym yn gofyn iddynt lenwi holiadur byr yn hytrach gan ei bod yn bwysig bod y panel yn clywed eu barn.  Oherwydd y cyfyngiadau Covid-19, mae ymweliad y panel yn debyg o gael ei gynnal yn electronig, gan ddefnyddio Microsoft Teams.

Sylwer bod eich ymatebion yn gyfrinachol i’r panel ac nid ydynt yn cael eu rhannu gyda staff y brifysgol, er y byddant yn hwyluso’r cwestiynau a ofynnir gennym i staff. 

Os byddwch angen unrhyw wybodaeth ychwanegol ar waith ETS Cymru, gallwch ymweld â’n gwefan www.etswales.org.uk neu anfon e-bost ataf.  

Diolch i chi ymlaen llaw.

 

Liz Rose

Ymgynghorydd ETS Cymru

 

Cwestiynau i fyfyrwyr:

Dilysu: Teipiwch y gair CAP yn y blwch:

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again