Dyddiad postio 4.9.19

ETS Cymru yn penodi Cadeirydd newydd

Ymddeolodd Gareth Newton o’i rôl presennol fel Cadeirydd Pwyllgor Safonau Hyfforddiant Addysg (ETS) Cymru ar ddiwedd mis Awst 2019, ar ôl ei wasanaeth o saith mlynedd. 

Yn dilyn proses recriwtio Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, penodwyd Steve Drowley, Is-gadeirydd yr ETS, fel Cadeirydd newydd ETS am gyfnod o dair blynedd o fis Medi ymlaen. 

Daeth Gareth, Cyn Gyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Cyngor Rhondda Cynon Taf, yn Gadeirydd ETS yn 2012. Cyn ailstrwythuro'r llywodraeth leol, roedd Gareth yn gweithio i Gyngor Sir Morgannwg Ganol fel uwch weithiwr ieuenctid a rheolwr addysg gymunedol. Dechreuodd ei yrfa yn y byd addysg ynghanol y 70au fel athro Saesneg mewn ysgol uwchradd. 

Fel Cadeirydd ETS, roedd Gareth yn gallu darparu cyfarwyddyd strategol gwerthfawr i’r Pwyllgor ac roedd yn derbyn clod am ei agwedd gynhwysol ar gyfer sicrhau bod llais pob cynrychiolydd sector yn cael ei glywed. 

Wrth adlewyrchu ar ei gyfnod yn y swydd, dywedodd Gareth, “Bu’n fraint ac yn anrhydedd bod yn Gadeirydd ETS dros y saith mlynedd ddiwethaf. Rwyf wedi mwynhau gweithio mewn grŵp o unigolion anhygoel, a phawb yn ymrwymo'n angerddol i sicrhau bod gwaith ieuenctid yn parhau i ddarparu cefnogaeth angenrheidiol i bobl ifanc Cymru. Mewn cyfnod pan mae’r cyfnod trosglwyddo o lencyndod i fod yn oedolyn yn fwy cymhleth nag erioed, mae gweithwyr ieuenctid yn helpu ein pobl ifanc i ddod o'u hyd i'r ffordd i'r ochr arall yn llwyddiannus. Pe nad oedd gwaith ieuenctid yn bodoli, rwy’n amau y byddai’n rhaid i ni ei ddyfeisio!” 

Mae Steve Drowley wedi ymddeol o fod yn gyfarwyddwr rhaglen i raglen BA Ieuenctid a Gwaith Cymunedol ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, lle bu’n gweithio am dros 12 mlynedd. Cyn hynny, roedd Steve yn uwch swyddog yn yr Asiantaeth Ieuenctid Cenedlaethol yn Lloegr, ac yn flaenorol yng Nghyngor Dyfnaint fel eu Prif Swyddog Ieuenctid. 

Dywedodd Steve: 

“Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi fel Cadeirydd ETS Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i symud gwaith y Pwyllgor ETS ymlaen.” 

 

 

Gareth Newton, yn eistedd, yn cadeirio ei gyfarfod Pwyllgor ETS olaf ym mis Mai 2019. 

Yn y llun o’r chwith i’r dde mae: 

Hayden Llewellyn, Cyngor Gweithlu Addysg; Steve Drowley, Is-gadeirydd; Grant Poiner Clybiau Bechgyn a Merched Cymru; Tim Opie CLlLC; Josh Klein, Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy; Liz Rose, Cynghorydd ETS; Gill Price, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd; David Algie, Cydgyngor Trafod Telerau Cymdeithas Llywodraeth Leol; Cathie Robins-Talbot, Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol; Jo Sims, Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent.

Yn ôl i'r dudalen blaenorol

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again