Cais Unigolyn Ifanc i Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu  

Cyflwyniad  

Mae Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu ar gyfer gwaith ieuenctid (WDPG) yn chwilio am ddau unigolyn ifanc i ymuno â nhw. Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru sy'n cydlynu'r grŵp hwn a'r broses ymgeisio. 

Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn pobl ifanc rhwng 18 a 25 oed sy'n cwblhau'r canlynol neu sydd wedi eu cwblhau'n ddiweddar: 

 

Cefndir 

Gwnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu'r Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro (IYWB), sydd wedi gweithio gyda'r sector i ddatblygu Strategaeth Gwaith Ieuenctid ar gyfer Cymru. Mae'r Strategaeth yn rhestru pum nod y mae'r IYWB yn credu dylent fod yn sail i'w gweledigaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r nodau hyn fel a ganlyn: 

1. Mae pobl ifanc yn ffynnu. 

2. Mae gwaith ieuenctid yn hygyrch a chynhwysol. 

3. Mae gwirfoddolwyr a gweithwyr proffesiynol cyflogedig ym maes gwaith ieuenctid yn cael eu cefnogi drwy gydol eu gyrfaoedd i wella eu hymarfer. 

4. Mae gwaith ieuenctid yn cael ei werthfawrogi a’i ddeall. 

5. Model cynaliadwy ar gyfer cyflawni gwaith ieuenctid. 

 

Er mwyn sicrhau y bydd y Strategaeth yn dod yn fwy na geiriau ar bapur yn unig, mae'r IYWB wedi sefydlu pedwar Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth bellach i fwrw ymlaen â'r gwaith sydd angen ei wneud i gyflawni prif ymrwymiadau a nodau’r Strategaeth.

Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru sy'n arwain y grŵp a fydd yn bwrw ymlaen â Nod 3 y Strategaeth, ac mae wedi sefydlu Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu. 

 

Beth yw blaenoriaethau Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu? 

Mae'n ddyddiau cynnar iawn i'r Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu, ond rydym eisoes wedi nodi bod angen i'n cynllun gwaith ganolbwyntio ar bedair blaenoriaeth allweddol. Dyma nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd: 

 

Mae'r IYWB wedi gwneud addewid clir i bobl ifanc y byddant yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gwaith o ddatblygu'r Strategaeth. O ganlyniad, mae Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu yn ceisio recriwtio dau unigolyn ifanc nawr i'n helpu ni yn ein gwaith ac i sicrhau ein bod yn cadw buddion pobl ifanc Cymru wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud.  

Rydyn ni'n eich annog i ymgeisio. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn trafod y cymorth y gallai fod ei angen arnoch i gymryd rhan lawn yng ngwaith y grŵp. 

 

Gwybodaeth ymarferol 

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal mewn lleoliad yng Nghaerdydd a fydd yn hawdd ei gyrraedd o'r orsaf drenau. Bydd uchafswm o bum cyfarfod yn cael eu cynnal hyd at fis Rhagfyr 2020 a thelir am gostau teithio a chynhaliaeth. Gall costau cyflogaeth hefyd gael eu had-dalu os bydd angen. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag elizabeth.rose@wlga.gov.uk 

 

Ffurflen gais i ymuno â'r grŵp 

Llenwch y ffurflen erbyn Dydd Gwener 7 Chwefror 2020

 

Verification: Please type the word CUP into the box:

Diolch am eich diddordeb mewn ymuno â Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu (WDPG).

 

Acronymau

ETS Cymru - Safonau Addysg Hyfforddiant Cymru

IYWB - Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro 

SPG - Grŵp Cyfranogiad y Strategaeth

WDPG - Grŵp Cyfranogiad Datblygu'r Gweithlu ar gyfer gwaith ieuenctid

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again