Resources

Fforwm Darparwyr Cymwysterau Ymarfer Gwaith Ieuenctid

Prif bwrpas y grŵp yw creu llwyfan i ddarparwyr presennol a darpar ddarparwyr y cymwysterau Gwaith Ieuenctid Lefel 2 / Lefel 3 drafod materion sy’n ymwneud â chyflawni a datblygu’r cymwysterau (gan gynnwys arfer da, safoni, newidiadau deddfwriaethol, gofynion sector a dilyniant dysgwyr).

Mae’r fforwm yn agored i sefydliadau sy’n cyflawni’r cymwysterau Ymarfer Gwaith Ieuenctid Lefel 2 a 3 yn weithredol (neu sy’n bwriadu cyflawni) ynghyd â sefydliadau sydd â rôl hanfodol i’w chwarae wrth eu cyflwyno. Efallai y bydd sefydliadau eraill yn cael eu gwahodd i fynychu yn ôl yr angen i ddarparu diweddariadau penodol ar bynciau perthnasol.

Mae rhagor o fanylion ar gael yn y Cylch Gorchwyl – Fforwm Darparwyr Cymwysterau Ymarfer Gwaith Ieuenctid (Terfynol) (Saesneg yn unig)

Sefydlwyd y grŵp yn 2023 ac mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael yma. (Saesneg yn unig)