Dysgu Proffesiynol ar gyfer Rheolwyr Gwaith Ieuenctid
Mae'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid wedi'i ddatblygu oherwydd angen a nodwyd gan yr Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant, lle mae llawer o ymarferwyr yn adlewyrchu, er eu bod wedi ennill neu'n dilyn rolau arwain, nad ydynt wedi derbyn unrhyw hyfforddiant ffurfiol ar arweinyddiaeth a rheolaeth. Yn ogystal, roedd arweinwyr a rheolwyr a oedd yn mynychu'r cwrs Arweinyddiaeth a Rheolaeth Gwaith Ieuenctid Lefel 7 yn cydnabod perthnasedd strategol y cwrs hwn. Roeddent yn teimlo bod rheolwyr ar draws pob lefel o waith ieuenctid yn gofyn am fwy o ffocws gweithredol ar arweinyddiaeth a rheoli.
Er mwyn mynd i'r afael â'r angen a nodwyd hwn, cyfarfu grŵp o ymarferwyr o bob rhan o Gymru i drafod cynnwys y rhaglen a nodi sut y gellid datblygu hyn ar gyfer rheolwyr gwaith ieuenctid newydd a rhai sy'n bodoli eisoes. Trwy gydweithio, gyda chyfranogwyr a oedd wedi ymgymryd â'r rhaglen Lefel 7 yn flaenorol, datblygwyd y cwrs Lefel 3, a'i gyflwyno'n ddiweddar fel rhan o beilot mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, ETS Cymru ac Emma Chivers (Ymgynghorydd ac Ymchwilydd Gwaith Ieuenctid). Roedd gan y cwrs ffocws ar arweinyddiaeth weithredol wrth reoli eraill mewn lleoliad Gwaith Ieuenctid ac fe'i hachredu trwy Agored Cymru.
Mae hon hefyd yn uned ddewisol o'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid, a all gyfrannu at eich Cymhwyster Gweithiwr Cymorth Ieuenctid. Yn ogystal, os ydych yn ennill 37 credyd neu fwy, byddwch yn ennill Diploma Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid, sy'n darparu sylfaen gadarn ar gyfer eich dysgu proffesiynol.
Roedd un o'r cyfranogwyr o'r farn bod y cwrs yn ddefnyddiol, fel y nodwyd yn y sylw isod:
"Yn ddefnyddiol iawn, mwynheais gynnwys y cwrs a gallu trafod arweinyddiaeth gyda chydweithwyr. Rydw i'n mynd i fyfyrio ar fy arddull rheoli a chyflwyno gwahanol fathau o oruchwyliaeth, byddwn yn argymell y cymhwyster hwn i eraill."
Cefnogir cyflwyno'r cwrs yn y dyfodol drwy ddatblygu pecyn 'Hyfforddi'r Hyfforddwr', sy'n cynnwys cynlluniau sesiwn, llyfrau gwaith ac asesiadau i gefnogi cyflwyno'r cwrs yn llwyddiannus, fel bod rheolwyr gwaith ieuenctid yn gallu cyflawni hyn o fewn eu sefydliad eu hunain, a/neu'n rhanbarthol. Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd, sef, os ydych yn bartner gyda Adult Learning Wales, efallai y bydd gennych hawl i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru, i gefnogi'r hyfforddwr i gyflawni hyn, neu gallwch ofyn i un o'u tiwtoriaid gyflwyno'r cwrs ar eich rhan. Os hoffech wneud hyn, cysylltwch â Rachel Burton: Rachel.Burton@AdultLearning.Wales, neu os hoffech hunangyllido hyn, gallwch ddefnyddio'r adnoddau a ddatblygwyd yn eich Canolfan Agored eich hun, ar yr amod eich bod yn bodloni'r gofynion angenrheidiol a nodir gan Agored Cymru.