Coronafeirws / Covid-19 – Canllawiau ETS ar gyfer y sector Addysg Uwch

(canllaw ar wahân ar gyfer y sector addysg bellach)

Canllawiau ETS Cymru i Sefydliadau Addysg Uwch sy’n darparu Rhaglenni Gwaith Ieuenctid a Chymuned Broffesiynol yng Nghymru ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2020-21

@Ionawr 2021

 

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i flwyddyn academaidd 2020-2021, tra mae cyfyngiadau’r argyfwng Covid-19 ar waith, ac i ddysgwyr sydd wedi’u heffeithio neu’n parhau i gael eu heffeithio gan y cyfyngiadau hyn. ETS Cymru, sef y Corff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddio (PSRB) ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru sy’n darparu’r canllawiau hyn, a byddant yn cael eu hadolygu yn ôl yr angen pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau pellach. 

Lluniwyd y canllawiau ar y cyd gydag ETS Lloegr ac yn dilyn ymgynghoriad â TAG Cymru. Byddwn hefyd yn cydweithio gyda’n partneriaid PSRB yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon i sicrhau gymaint o gysondeb â phosibl.

 

Egwyddorion

O ystyried y Canllawiau Cymeradwyo a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan ETS Cymru, y canllawiau gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch, a thrafodaeth â chydweithwyr yng Nghymru ac ar draws y DU, dylai’r canllawiau hyn ac unrhyw fesurau a gaiff eu cymryd gan SAU i leihau’r amhariad ar arferion ac addysg disgyblion o ganlyniad i’r Coronafeirws fod yn seiliedig ar yr egwyddorion canlynol:

 

Canllawiau Arbennig

1. Bodloni Safonau Proffesiynol Gwaith Ieuenctid a Chymuned

Beth bynnag yw’r cyfyngiadau mewn perthynas â COVID-19, mae’n hanfodol fod myfyrwyr sy’n graddio o raglenni gwaith ieuenctid proffesiynol yn cydymffurfio â gwerthoedd gwaith ieuenctid a chymuned a Chod Ymddygiad Cyngor y Gweithlu Addysg, eu bod yn gallu arddangos a defnyddio’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, a’u bod, yn y pen draw, yn gymwys i weithio (gweler paragraff 60 yn y Canllawiau Cymeradwyo). Rydym yn gwahodd sefydliadau i fod yn arloesol o ran eu dulliau asesu, pan fo’r cyfyngiadau yn ei gwneud hi’n anodd cynnal yr asesiadau hyn mewn lleoliadau gwaith ymarferol.  Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr o’r sector i gasglu enghreifftiau o arferion arloesol gan sefydliadau y gellir eu rhannu, er enghraifft, dod o hyd i ffyrdd amgen o fesur dealltwriaeth a gwybodaeth myfyrwyr (gweler adran 4 – Strategaethau Amgen ar gyfer Ymarfer Proffesiynol).

 

2. Dulliau Dysgu ac Addysgu, a Strwythuro Rhaglenni

Rydym yn deall fod rhaglenni Ieuenctid a Chymuned wedi derbyn cais gan eu sefydliadau i nodi pa fodiwlau y gellir eu darparu ar-lein, a hyd yn oed cynllunio i bob modiwl symud ar-lein.  Mae ETS yn cefnogi’r achos i raglenni Gwaith Ieuenctid a Chymuned barhau i gael eu cynnal ar y campws ac ar leoliadau gwaith lle bynnag y bo modd. Mae’r farn hon yn seiliedig ar drafodaethau gydag aelodau TAG Cymru, lle amlygwyd y pwyntiau canlynol:

O ran dysgu ar-lein, a allai fod yn fuddiol fel rhan o becyn dysgu cyfunol, mae’n hanfodol fod gan SEI ddulliau o gadarnhau ymgysylltiad a sicrhau fod myfyrwyr yn cymryd rhan lawn a gweithredol mewn sgyrsiau rhyngweithiol â darlithwyr a’u cyd-fyfyrwyr.

Cynhyrchwyd briff ar waith ieuenctid digidol drwy ETS ar y cyd â chydweithwyr PSRB yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon sy’n cynnwys canllawiau defnyddiol ar ddulliau digidol. Mae’r briff ar gael yma.

Rydym yn derbyn y gellir defnyddio ymarferion efelychu i gyfoethogi ac archwilio dysgu yn seiliedig ar arferion ymhellach, fodd bynnag, nid ydym yn annog sefydliadau i ddefnyddio ymarferion efelychu yn lle ymarferion proffesiynol wyneb yn wyneb, gan y credwn y byddai’n anodd ail-greu sefyllfaoedd gwaith ieuenctid gwirioneddol.

Mae’n bosibl y bydd rhai sefydliadau’n penderfynu newid amseriad modiwlau penodol yn eu rhaglenni, er enghraifft, darparu rhai modiwlau lefel 4/5 ar lefel 5/6 ac fel arall. Cyn belled â’i fod yn cyd-fynd â chynllun rhaglen a strategaeth asesu’r sefydliad, mae ETS yn hapus i sefydliadau ddefnyddio’u crebwyll proffesiynol mewn perthynas â hyn. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd dwyn lleoliadau gwaith ymlaen yn rhoi gormod o straen ar rai darparwyr, o ystyried na fydd nifer o sefydliadau ieuenctid yn hollol weithredol erbyn mis Medi 2020 o bosibl. Rydym yn annog sefydliadau i barhau i ymgysylltu â darparwyr lleoliadau gwaith mewn perthynas â derbyn myfyrwyr ar leoliad gwaith.

 

3. Gofynion ar gyfer Ymarfer Proffesiynol

Mae ymarfer proffesiynol yn un o’r rhagofynion ar gyfer cyflawni cymhwyster proffesiynol mewn gwaith ieuenctid. Mae Adran 10 yng Nghanllawiau’r ETS yn amlinellu’r lefel ofynnol o ymarfer proffesiynol asesedig (800 awr ar gyfer rhaglenni gradd a 300 awr ar gyfer rhaglenni ôl-radd). Rydym yn deall efallai y bydd y cyfyngiadau COVID-19 yn gwneud pethau’n anodd i ddarparwyr lleoliadau gwaith ieuenctid yn ogystal â’r myfyrwyr o ran cyflawni hyn.

Roedd canllawiau COVID cyfredol ETS Cymru (Mawrth 2020) yn canolbwyntio ar gwblhau’r flwyddyn academaidd 2019-20, ac yn caniatáu i fyfyrwyr yn eu blwyddyn olaf raddio os oeddent wedi cwblhau 700 allan o’r 800 awr a oedd yn ofynnol ar gyfer y rhaglen lawn, a myfyrwyr Lefel 4 a 5 i fynd ymlaen drwy gario oriau heb eu cwblhau i’r lefel nesaf. Fodd bynnag, ar gyfer blwyddyn academaidd 2020-21, er mwyn osgoi dwysau anfanteision i ddysgwyr, byddwn yn derbyn myfyrwyr sydd wedi cwblhau 75% o’r oriau gofynnol ar draws y rhaglen gyfan (h.y. 600 allan o 800 awr ar gyfer BA a 225 allan o 300 ar gyfer PgDip), cyn belled â bod y myfyrwyr wedi llwyddo mewn asesiadau ymarferion blaenorol (lle bo hynny’n briodol) ac yr ystyrir eu bod yn gymwys i barhau i ymarfer. Dylid ystyried y lwfansau hyn fel gofynion sylfaenol yn hytrach na thargedau (dylid parhau i annog myfyrwyr i gyflawni’r 800 neu'r 300 awr llawn, ac mae’n rhaid i 50% o’r oriau hynny fod yn waith wyneb yn wyneb â phobl ifanc), bydd hyn hefyd yn caniatáu i’r oriau lleoliadau gwaith gael eu dosbarthu’n hyblyg ar draws y rhaglen, gan gadw mewn cof y pwysigrwydd o sicrhau bod ymarfer yn digwydd ochr yn ochr â dysgu damcaniaethol, gan fod angen arddangos cymhwysedd proffesiynol ar bob lefel. Dylai myfyrwyr wneud pob ymdrech felly i barhau â’r elfennau nad ydynt wyneb yn wyneb o’u lleoliadau gwaith, hyd yn oed os nad yw gwaith wyneb yn wyneb yn bosibl mwyach yn sgil Covid.

Bydd modd defnyddio’r lwfans 75% ar gyfer ymgeiswyr rhaglenni BA a PgDip a’r rheiny sy’n symud ymlaen o raglenni sylfaenol i’r rhaglen gradd, mae beirniadaeth broffesiynol y tiwtor o ran gallu academaidd a photensial y dysgwr yn hollbwysig yn yr achosion hyn.

Bydd gwaith ieuenctid a gwblheir drwy blatfformau digidol yn cael ei ystyried fel gwaith wyneb yn wyneb yn yr un modd ag ymarferion wyneb yn wyneb arferol â phobl ifanc.

Ni ddylid ystyried ymarferion a gwblhawyd cyn i’r myfyriwr gofrestru ar gyfer eu rhaglen cymhwyster fel rhan o’r oriau ymarfer gofynnol, oni bai bod yr ymarfer yn bodloni’r gofynion a amlinellir yn y Canllawiau Cymeradwyo mewn perthynas â chydnabod profiad/achredu dysgu blaenorol. Fodd bynnag, os yw myfyrwyr unigol yn gallu profi elfennau arbennig o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol drwy aseiniadau yn seiliedig ar brofiad blaenorol, ac yn bodloni meini prawf asesu’r sefydliad, dylai sefydliadau ddefnyddio eu crebwyll eu hunain i benderfynu a ddylid derbyn hyn neu beidio.  

 

4. Strategaethau Amgen ar gyfer Ymarfer Proffesiynol

O ystyried yr ansicrwydd o ran pryd fydd ymarfer gwaith ieuenctid yn gallu ailagor yn llawn unwaith eto, a’r amgylchiadau eithriadol mewn perthynas â’r pandemig presennol, efallai y byddai’n syniad rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith rhag ofn y bydd prinder lleoliadau gwaith ym mis Medi. Dyma rai syniadau a rannwyd yng nghyfarfod yr ETS/SAU ar 19 Mehefin mewn perthynas â strategaethau amgen:

Lle nad yw’n bosibl cynnal lleoliadau gwaith, anogir myfyrwyr i gysylltu ag arweinwyr eu cyrsiau i archwilio systemau lliniariadau’r brifysgol.

 

5. Goruchwylio ac Asesu Gwaith Maes/Ymarfer Proffesiynol

Dylid parhau i fodloni’r gofynion o ran goruchwylio lleoliadau gwaith yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau COVID-19. Mae’n bosibl y bydd goruchwylwyr/myfyrwyr unigol yn cynnal sesiynau goruchwylio ar blatfformau ar-lein yn hytrach na chyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Disgwyliwn y bydd y trefniadau ar gyfer asesu gwaith maes/ymarfer proffesiynol yn aros yr un fath, ond bydd goruchwyliaeth wyneb yn wyneb a chyfarfodydd 3 ffordd yn parhau i gael eu cynnal drwy sesiynau ar-lein. Pan fo ymarfer wedi symud o ddarpariaeth wyneb yn wyneb i ddarpariaeth ddigidol, disgwyliwn y bydd goruchwylwyr, a lle bo hynny’n addas, tiwtoriaid gwaith maes yn parhau i arsylwi’r myfyriwr yn ystod eu hymarfer ac yn cynnig adborth iddynt.

Deallwn fod y trefniadau presennol wedi gwneud pethau’n anodd i rai goruchwylwyr sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo neu wedi’u neilltuo i ddyletswyddau eraill ddarparu adroddiadau asesiadau diwedd lleoliad gwaith. Yn yr achosion hyn, disgwylir y bydd timau’r cwrs yn defnyddio’u crebwyll proffesiynol i wneud penderfyniadau ynghylch ansawdd ymarfer myfyrwyr, gan gymryd i ystyriaeth gwybodaeth y myfyriwr, lleoliadau gwaith blaenorol, cyfarfodydd 3/4 ffordd ac unrhyw ddangosyddion y mae’r goruchwyliwr yn gallu eu darparu.

 

6. Llais y Myfyriwr mewn perthynas ag Asesu a Monitro Rhaglenni

Yn ystod amgylchiadau ansicr, megis y cyfyngiadau COVID-19, mae myfyrwyr yn debygol o fod yn fwy pryderus nag arfer ynghylch eu dysgu a’u cynnydd ar y rhaglen. Rydym yn annog sefydliadau i sicrhau fod ganddynt ddulliau llais myfyrwyr effeithiol ar waith ar gyfer rhaglenni Ieuenctid a Chymuned a bod modd addasu’r rhain i ddulliau ymgysylltu digidol lle bo angen.

 

7. Llais y Cyflogwr/Gwaith Maes mewn perthynas ag Asesu a Monitro Rhaglenni

O ystyried yr heriau sy’n wynebu’r maes gwaith ieuenctid ar hyn o bryd, rydym yn cydnabod ei bod o bosibl yn anoddach ymgysylltu â chyflogwyr nag arfer. Fodd bynnag, mae ein profiad yn dangos fod nifer o weithwyr maes/cyflogwyr wedi bod yn ymgysylltu â fforymau sy’n caniatáu iddynt ystyried materion ehangach ar gyfer y maes, gan gynnwys goblygiadau COVID-19, a fod platfformau ar-lein yn gallu cynnig dull effeithiol o ddod â phobl ynghyd heb dreulio amser yn teithio i gyfarfodydd. Rydym yn annog sefydliadau i gynnal a datblygu’r ymagwedd hon tuag at ymgysylltu â chyflogwyr ymhellach er mwyn bod yn ymwybodol o unrhyw ddatblygiadau yn y maes, a sicrhau cyflenwad digonol o leoliadau gwaith priodol i’w myfyrwyr.

 

8. Rhoi gwybod i’r ETS am

Mae Canllawiau Cymeradwyo ETS Cymru yn egluro beth ddylai sefydliadau ei wneud os bydd arnynt angen gwneud newidiadau i’w rhaglenni o fewn eu hamserlen gymeradwyo arferol (gweler paragraffau 82-86 yn Adran 4).

O ran newidiadau dros dro sy’n ofynnol yn sgil y cyfyngiadau COVID-19, cyn belled â’u bod yn bodloni’r canllawiau uchod, ac yn cydymffurfio â chanllawiau a mesurau’r sefydliad, ni fydd angen rhoi gwybod i’r PSRB.  Rydym yn argymell eich bod yn ymgynghori ag archwilwyr allanol wrth ddyfeisio mesurau i fynd i’r afael ag effaith y cyfyngiadau COVID i sicrhau nad ydynt yn peryglu ansawdd y rhaglenni yn ormodol.  Mae’n rhaid i dimau cyrsiau ddefnyddio’u crebwyll proffesiynol eu hunain i weithredu’r canllawiau hyn yn yr amrywiaeth anochel o amgylchiadau y byddant yn eu hwynebu.

Dylid trafod unrhyw newidiadau dros dro arfaethedig nad ydynt yn cydymffurfio â’r canllawiau hyn â’r Ymgynghorydd ETS, a fydd yn egluro p’un a ydynt yn addasiadau bychain, canolig neu sylweddol sy’n ymofyn lefel uwch o graffu gan swyddogion ETS, aelodau a/neu Gadeirydd y panel cymeradwyo blaenorol.

 

9. Canllawiau ar gyfer Cymeradwyo a/neu Ail-gymeradwyo Rhaglenni

Cynhaliwyd ail-gymeradwyaeth wedi’i drefnu ar-lein yn ystod y cyfnod clo o ganlyniad i’r argyfwng Covid. Er bod hyn wedi gweithio’n dda, mae ETS yn ystyried fod (ail)gymeradwyaeth wyneb yn wyneb yn cynnig deialog gwell, ac wrth i gyfyngiadau lacio, byddem yn ffafrio hyn lle bo hynny’n ddiogel. Os bydd y cyfyngiadau yn parhau mewn grym, neu’n cael eu hail-gyflwyno, bydd ETS yn ystyried eu gohirio lle bo sail digonol i wneud hynny. Fodd bynnag, byddai’n well gennym, yn ystod cyfnodau clo yn unig, i ddigwyddiadau gael eu cynnal ar-lein lle bo hynny’n bosibl.

 

10. Adolygu’r Canllawiau COVID-19

Bydd ETS yn parhau i adolygu’r canllawiau hyn ac mae’n bosibl y bydd yn rhaid gwneud newidiadau yn seiliedig ar ganllawiau gan Lywodraeth Cymru, adborth gan sefydliadau a’r maes gwaith ieuenctid. Gan fod y sefyllfa mewn perthynas â COVID-19 yn parhau i fod yn ansicr, rydym yn argymell bod SAU yn datblygu trefniadau wrth gefn ar gyfer dysgu ac addysgu, asesiadau a lleoliadau gwaith ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf o leiaf. Byddem yn croesawu eich adborth, felly mae croeso i chi gysylltu â’r Ymgynghorydd ETS, Liz Rose neu’r Cadeirydd ETS, Steve Drowley os oes gennych chi unrhyw arsylwadau neu awgrymiadau.

 

Canllaw Ychwanegol gan ETS Cymru ar 27.03.2020

Yn dilyn ein canllaw ar 18.03.2020 isod, rydym wedi cyhoeddi canllaw ychwanegol mewn ymateb i nifer o ymholiadau unigol.

Mae Canllawiau ETS yn disgwyl i brifysgolion gymryd sylw o ganllawiau QAA ar ddysgu'n seiliedig ar waith sy’n crybwyll iechyd a diogelwch, ynghyd â chanllawiau cyfredol Iechyd Cyhoeddus/Llywodraeth Cymru/DU ac unrhyw bolisïau mewnol a gynhyrchir mewn ymateb. Mae rhai darpariaethau ar gyfer lleoliadau wedi cau yn gyfan gwbl tra bod rhai gweithwyr ieuenctid yn cael eu hadleoli i gynorthwyo gyda darpariaethau mewn ysgolion. Bydd angen i brifysgolion ddelio â hyn fesul achos fel bod myfyrwyr mewn amgylchiadau penodol neu gydag amodau penodol yn ddiogel.

Cyfeiriwch ar bwyntiau 1a a 2a isod sy’n gofyn i brifysgolion ddefnyddio disgresiwn yn seiliedig ar berfformiadau ymarferol ac academaidd blaenorol y myfyrwyr.

Dylai Sefydliadau Addysg Uwch lynu at y gofyniad am 100 awr o brofiad mewn lleoliad gwaith ieuenctid a chymunedol lle bynnag bosibl; mae hyn fel arfer yn gymwys i’r dyddiad pan ddechreuodd yr ymgeisydd ar y rhaglen, ond dylid ystyried bod llawer o gyfleoedd dros yr haf i gyflawni’r oriau os a phryd fydd y mesurau i rwystro lledaeniad y Coronafeirws yn cael eu hymlacio.

Bydd angen i Gyfarwyddwyr Rhaglen ddefnyddio eu barn broffesiynol i wneud cynigion mewn achosion lle mae ymgeisydd sy’n ddigon cymwys heb allu cwblhau 100 awr o brofiad, er enghraifft drwy ystyried profiadau cysylltiedig eraill sy’n dangos nodweddion a gwerthoedd myfyriwr gwaith ieuenctid a chymunedol, a sicrhau’r gallu a’r priodoleddau angenrheidiol.

I’r ymgeiswyr hynny lle mae diffyg sylweddol o ran profiad, gellir gwneud cynnig amodol i’r ymgeisydd gwblhau oriau ychwanegol ar Lefel 4. Ni ddylai hyn fynd tu hwnt i 100 awr ac ym mwyafrif yr achosion bydd yn llawer llai.

 

Coronafeirws / COVID 19 – Canllaw gan ETS Cymru ar 18.03.2020

 

Mae nifer o gydweithwyr wedi codi ymholiadau am effeithiau posibl sefyllfa COVID-19, yn arbennig ar leoliadau gwaith maes mewn rhaglenni Gwaith Ieuenctid a Chymunedol a gydnabyddir gan y JNC. Darllenwch y cyngor canlynol gan ETS Cymru, yn seiliedig ar gyngor gan ETS Lloegr. Mae hyn yn berthnasol i raglenni yng Nghymru ac i’r Brifysgol Agored ar gyfer myfyrwyr yng Nghymru.

Mae rhaglenni gradd a gydnabyddir gan y JNC yn pennu bod angen nifer o  oriau o ymarfer dan oruchwyliaeth, gyda dyfarniad yn dibynnau ar gwblhau eu hymarfer i’r safon gofynnol. Mae’r angen am ymarfer dan oruchwyliaeth yn elfen graidd o’r radd sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gwaith ieuenctid. Er mwyn graddio a chyflawni statws proffesiynol rhaid i fyfyriwr Gwaith Ieuenctid a Chymunedol gwblhau nifer penodol o oriau mewn ymarfer proffesiynol a asesir, a phasio’r ymarfer yn llawn.

Mae Canllawiau Ardystiad ETS Cymru yn datgan: 

Fodd bynnag, mae canlyniadau posibl y COVID-19 (gan gynnwys cau gweithgareddau/asiantaethau ymarfer dros dro)  yn golygu bod rhai myfyrwyr yn cael eu hatal rhag cwblhau’r ymarfer proffesiynol wedi’i asesu sy’n ofynnol. Oherwydd yr amgylchiadau eithriadol hyn sy’n newid yn gyflym, mae ETS Cymru yn cyhoeddi canllawiau i reoli a lleihau yr amhariad i fyfyrwyr a Sefydliadau Addysg Uwch o ran ymarfer gwaith maes, wrth geisio sicrhau nad yw safon y rhaglenni gradd yn cael eu cyfaddawdu.

Mae’r canllaw canlynol wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch er mwyn cynorthwyo i gynllunio ar gyfer unrhyw amgylchiadau lle gall oriau ymarfer sydd wedi cael eu cynllunio, gael eu heffeithio mewn perthynas â rhaglenni Gwaith Ieuenctid a Chymunedol israddedig neu ôl-raddedig.

 

Canllawiau Ychwanegol ETS Cymru (o 18.03.2020):

1.       a. Canllaw ar gyfer Myfyrwyr Nad Ydynt yn y Flwyddyn Olaf:

Ar gyfer myfyrwyr ar lefelau 4 a 5 eu rhaglen sydd heb allu gorffen eu hymarfer, awgrymwn fod prifysgolion, ar ddisgresiwn yn seiliedig ar berfformiad academaidd ac ymarfer, yn caniatáu iddynt barhau i’r flwyddyn/lefel nesaf heb orfod cwblhau'r holl waith maes gofynnol, ar yr amod eu bod yn cyflawni gwaith maes ychwanegol dan oruchwyliaeth er mwyn cwblhau’r oriau, a’r canlyniadau dysgu sy’n gysylltiedig â hwy, ar gam diweddarach yn eu rhaglen. Dylai prifysgolion unigol weithio gyda lleoliadau a myfyrwyr i ganfod pryd all hyn ddigwydd – gan gynnwys defnydd o amser tu allan i dymhorau dysgu arferol y Brifysgol.

2.       b. Canllaw ar gyfer Myfyrwyr yn y Flwyddyn Olaf:

Mae myfyrwyr y flwyddyn olaf (lefel 6) fwy na thebyg wedi cwblhau mwyafrif eu horiau ymarferol, ond byddent hefyd yn wynebu’r ymyrraeth fwyaf. Dan yr amgylchiadau eithriadol hyn rydym yn cynnig bod prifysgolion, ar ddisgresiwn yn seiliedig ar berfformiad academaidd ac ymarfer, yn derbyn cyfanswm o 700 awr o ymarfer proffesiynol wedi’i asesu fel y safon i gymhwyso, yn hytrach na 800, os yw myfyrwyr wedi dangos eu bod yn pasio’n gyson mewn asesiadau ymarferol blaenorol ac os nad oes unrhyw bryderon am eu hymarfer gwaith maes. Ni fyddai hyn yn gymwys ar gyfer myfyrwyr ar y ffin pasio/methu lle byddai angen tystiolaeth ymarferol arall i gefnogi pasio a/neu oedi pasio’r rhaglen.

3.       c. Canllaw ar gyfer Myfyrwyr Ôl-raddedig:

Cydnabyddwn fod gan fyfyrwyr ôl-raddedig derfynau amser mwy cyfyngedig a byddai amhariad o 2-3 mis yn golygu’r perygl o beidio â chwblhau eu rhaglen. Fodd bynnag, yn yr achos hwn, ystyriwn y 300 awr gofynnol fel isafswm y gofyniad ar gyfer pasio yn yr ymarfer gwaith maes. Felly, os yw myfyriwr ar y rhaglen PG Dip, llawn amser neu ran amser, efallai bydd angen i Sefydliadau Addysg Uwch ystyried ymestyn y rhaglen ac adolygu’r dyddiad graddio er mwyn sicrhau bod gan fyfyrwyr ddigon o amser i gwblhau’r ymarfer proffesiynol wedi’i asesu. Yn yr un modd â myfyrwyr BA, dylai prifysgolion unigol  weithio gyda lleoliadau a myfyrwyr i ganfod pryd gall hyn ddigwydd, gan ymestyn i gyfnodau gwyliau prifysgol os oes angen.

4.       d. Canllaw ar Amgylchiadau Unigol:

Os oes gan fyfyriwr y profiad angenrheidiol o dystiolaeth ehangach o ymarfer dan oruchwyliaeth (er enghraifft, os yw myfyriwr yn cael eu cyflogi gan sefydliad ieuenctid priodol), gall eithriad i’r gofynion fod yn bosibl os fydd achos yn cael ei wneud am oriau ymarfer amgen. Fodd bynnag, dylai canlyniadau dysgu’r ymarfer dan oruchwyliaeth gael eu tystiolaethu’n glir a dylai unrhyw benderfyniad gael ei wneud gyda chymeradwyaeth yr Arholwr Allanol a benodwyd ar gyfer ymarfer gwaith maes.

5.       e. Canllaw ar Feini Prawf Asesiad:

Cydnabyddwn fod meini prawf asesiad penodol o fewn modiwlau unigol yn cynnwys gweithgareddau gwaith grŵp ac felly ni allent gael eu cwblhau. Yma, dylai offer asesu creadigol amgen gael eu defnyddio, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cwblhau eu rhaglenni dysgu.

 

Nodyn ar Effaith Ehangach Cau Prifysgolion neu Gyfyngiadau Teithio

Mae ETS Cymru yn cydnabod y bydd effeithiau ehangach ar ddatblygiad ac ardystio rhaglenni yn ystod y cyfnod cau Prifysgolion neu gyfyngiadau teithio o ganlyniad i’r sefyllfa Covid-19. Mae canllawiau pellach isod, o ran trefnu gweithgareddau ardystio a/neu ail-ardystio.

a.       Canllaw ar Ail-ardystiadau wedi eu trefnu:

Os yw Sefydliad Addysg Uwch wedi cau pan fydd ail-ardystiad wedi cael ei drefnu, bydd ETS Cymru yn ystyried ymestyn y cyfnod ardystio presennol am flwyddyn arall ar gais y Sefydliad. Dan yr amgylchiadau eithriadol hyn, dylai cais am estyniad gael ei gyflwyno yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl a’i anfon i:  elizabeth.rose@wlga.gov.uk

b.      Canllaw ar Ardystiadau Rhaglen Newydd:

Ar gyfer rhaglenni newydd mae’n angenrheidiol bod unigolion yn cwrdd â phersonél y Brifysgol a budd-ddeiliad perthnasol er mwyn llywio’r penderfyniad i gefnogi rhaglen a gydnabyddir gan y JNC. Os nad all panel gael ei drefnu gan fod y Brifysgol wedi cau (neu os yw teithio wedi cael ei wahardd), bydd angen gohirio’r ardystiad nes gallu trefnu dyddiad newydd a bydd y cynnig yn parhau i fod yn ddibynnol ar ardystiad nes cael cymeradwyaeth llawn. Bydd ETS Cymru yn gwneud pob ymdrech i drefnu’r digwyddiad hwn cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.

c.       Canllawiau pellach:

Rydym yn gwerthfawrogi bod ansicrwydd ar hyn o bryd o ran y sefyllfa sy’n codi wrth i COVID-19 ddatblygu a lledaenu. Gan fod y sefyllfa yn ansefydlog ac yn dibynnu ar ganllawiau swyddogol gan y Llywodraethau yn San Steffan ac yn Gaerdydd, byddwn yn adolygu ein canllawiau yn rheolaidd ac yn sicrhau bod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei rannu yn amserol.

d.      Ymholiadau:

Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r canllawiau hyn neu eich rhaglen(ni) penodol, mae croeso i chi gysylltu â Liz Rose (Ymgynghorydd ETS) neu Steve Drowley (Cadeirydd ETS) yn ETS Cymru:

elizabeth.rose@wlga.gov.uk  

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again