||
Hanes
Hanes datblygiad ETS Cymru
-
Fe gafodd y Cydbwyllgor Negodi dros Weithwyr Ieuenctid a Chymuned ei sefydlu ym 1961 yn sgîl argymhellion Adroddiad Albemarle am wasanaethau i’r ifainc yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddo ddwy garfan – y cyflogwyr a’r staff fydd yn cwrdd i gytuno ar gyflogau ac amodau a thelerau gwasanaeth gweithwyr ieuenctid. Rhwng 1961 a 1982, roedd y cydbwyllgor yn cytuno ar gategorïau’r cymwysterau i’w cydnabod ac yn cydnabod cyrsiau’r amryw sefydliadau a chyrff perthnasol eraill. Ar ôl 1982, y Cyngor dros Addysg a Hyfforddiant ynglŷn â Gwaith Ieuenctid a Chymuned ysgwyddodd gyfrifoldeb am archwilio natur y cymwysterau. Ym 1991, aeth cyfrifoldeb am hynny i Asiantaeth Ieuenctid Lloegr. Fe ysgwyddodd Asiantaeth Ieuenctid Cymru gyfrifoldeb am archwilio cymwysterau yn y wlad hon ym 1994 i adlewyrchu newidiadau yn y drefn wleidyddol. Ar ben hynny, rhoes y cydbwyllgor hawl iddi achredu cyrsiau hyfforddi yn y gwaith a pholisïau datblygu staff.
-
Ar ôl i Asiantaeth Ieuenctid Cymru gael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru yn 2006, bu ETS Cymru yn gylch cynghori’r Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau gan roi argymhellion am elfennau rhaglenni hyfforddi y gallai’r cydbwyllgor eu gweld nhw’n rhai fyddai’n arwain at statws gweithiwr ieuenctid a chymuned cymwys. Byddai’r cydbwyllgor yn rhoi sêl ei fendith ar raglenni lle roedd yn fodlon arnyn nhw.
-
Yn 2009, fe ddechreuodd trefniadau i sefydlu ETS Cymru yn gorff annibynnol a fyddai’n gyfrifol am ddod i benderfyniadau ynglŷn ag ardystio a chydnabod rhaglenni’n broffesiynol. Mae Tîm Strategaeth Gwaith Ieuenctid Llywodraeth Cymru yn ariannu rhaglen waith y cytunwyd arni ar gyfer ETS Cymru trwy grant i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Bellach, mae’r Cydbwyllgor Negodi a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) wedi llofnodi memorandwm dealltwriaeth fel y bydd modd i ETS Cymru weithredu o dan adain WLGA.