Arweinyddiaeth a Rheoli sesiynau codi ymwybyddiaeth
Dydd Gwener 23 Ebrill 2021
10.00-12.30 neu 14.00-16.30
Mae gweithgor o gynrychiolwyr o sectorau ieuenctid gwirfoddol a statudol, SAU a Safonau Addysg a Hyfforddiant wedi gweithio ar y cyd gyda FPM i greu rhaglen wedi’i hanelu at arweinwyr a darpar arweinwyr yn y maes Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ymarfer arweinyddiaeth a rheoli o fewn gwasanaethau a sefydliadau, gan ddarparu fframwaith i archwilio'r ddwy thema, fe bod rheolwyr yn deall sut i arwain, cynnal a datblygu gwasanaethau sy'n cyfoethogi bywydau pobl ifanc yn well.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys dwy elfen. Yn gyntaf, bydd cyflwyniad sy'n rhoi trosolwg i chi o’r cwrs, cefndir i'w ddatblygiad a chamau yn y dyfodol. Yn ail, cewch eich gwahodd i stafell egwyl lle bydd gofyn i chi ystyried sut rydych wedi rheoli mater arweinyddiaeth allweddol yn y flwyddyn ddiwethaf.
I gadarnhau eich presenoldeb, anfonwch e-bost at elizabeth.rose@wlga.gov.uk