Graddedigion Prifysgol De Cymru yn derbyn tystysgrifau ETS Cymru 2022
Derbyniodd graddedigion o raglen Waith Ieuenctid a Chymunedol Prifysgol De Cymru eu tystysgrifau cymhwyso proffesiynol mewn noson wobrwyo yng Nghasnewydd. Trefnwyd y digwyddiad ar 8 Medi gan rai o’r cyn-fyfyrwyr, ac fe’i cynhaliwyd yn Farchnad Casnewydd. Rhoddodd Steve Drowley, Cadeirydd Cymru ETS, y tystysgrifau iddynt.