Cynllun Datblygu'r Gweithlu - Ymgynghoriad
Dogfen Ymgynghori:
Cynllun Datblygu'r Gweithlu ar gyfer y Sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Cyflwyniad
Mae’r sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru’n chwarae rhan hanfodol mewn cefnogi pobl ifanc er mwyn datblygu eu potensial, ymgysylltu â’u cymunedau a chael mynediad i addysg, hyfforddiant a thwf personol. Er mwyn sicrhau bod y sector yn parhau i ffynnu, ac yn bodloni anghenion esblygol pobl ifanc, mae’r Grŵp Cyfranogiad Gweithrediad Datblygu’r Gweithredu, sy’n is-grŵp i’r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid, sy’n datblygu Cynllun Datblygu’r Gweithlu cynhwysfawr. Bydd y cynllun yn amlinellu strategaethau ar gyfer recriwtio, hyfforddiant, cadw staff a chynnydd o fewn y sector.
Mae eich mewnbwn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod eich cynllun yn adlewyrchu safbwyntiau ac anghenion amrywiol y sawl sy’n gweithio yn y maes ac yn elwa o waith ieuenctid. Mae’r ddogfen yn amlinellu sut y gallwch gymryd rhan yn y broses ymgynghori, a darparu adborth i siapio dyfodol Datblygu’r Gweithlu yn y Sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru.
Amcanion y Cynllun Datblygu’r Gweithlu
Gyda’r cynllun hwn, mae’r amcanion wedi’u nodi’n glir ymhob maes pwnc, sy’n cynnwys:
- Cymwysterau Gwaith Ieuenctid a’r llwybrau cynnydd
- Addysg Broffesiynol ar gyfer Gweithwyr Ieuenctid
- Diwallu anghenion pobl ifanc drwy ddatblygiad y Gweithlu
- Gwaith Ieuenctid Cymraeg
- Hyrwyddo Gwaith Ieuenctid fel dewis gyrfa
Sut i gymryd rhan Rydym yn estyn gwahoddiad i fudd-ddeiliad, gan gynnwys ymarferwyd Gwaith Ieuenctid, cyflogwyr, pobl ifanc, arweinwyr a rheolwyr, ac aelodau o’r gymuned, i gymryd rhan yn y broses ymgynghori. Mae eich mewnbwn a phrofiadau yn werthfawr er mwyn siapio cynllun sy’n ymarferol ac yn effeithiol.
- Mynd i Ddigwyddiadau Ymgynghori
- Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein i drafod y cynllun hwn, a rhoi cyfle i chi roi eich adborth a sylwadau ar y cynllun arfaethedig.
- Gellir canfod manylion o’r digwyddiad a dolenni cofrestru yma: https://tinyurl.com/2cdkp7m7
- Llenwch yr Arolwg Ar-lein
- Rhannwch eich adborth drwy lenwi ein harolwg ar-lein. Mae’r arolwg ar agor nes 7 Chwefror 2024, a gellir ei lenwi yn Gymraeg a Saesneg.
-
Gellir gweld yr arolwg yma: https://forms.office.com/e/N2e0GDK2u5
- Adborth y grwpiau gweithredol
- Gall grwpiau strategol ledled Cymru gyflwyno eu hadborth ac mae croeso iddynt anfon neges e-bost at : ets@wlga.gov.uk i gael cynrychiolydd i fynychu a chymryd adborth ar y cyd.
Cwestiynau Allweddol ar gyfer yr Ymgynghoriad
Er mwyn llywio eich adborth, rydym yn eich gwahodd i ystyried y cwestiynau canlynol:
- Ydi’r cynllun yn cynnwys yr heriau cyfredol sy’n wynebu’r sector Gwaith Ieuenctid yng Nghymru?
- A oes unrhyw amcanion allweddol ar gyfer datblygu gweithlu Gwaith Ieuenctid yr ydych chi’n credu sydd ar goll?
- A oes unrhyw amcanion yn y cynllun yr ydych yn credu y dylent gael eu tynnu neu eu newid?
- Oes yna unrhyw sylwadau cyffredinol eraill yr hoffech eu gwneud am y testunau yma?
Llinell amser
- Cyfnod yr Ymgynghoriad: 6 Ionawr 2025 i 13 Chwefror 2025
- Dadansoddiad ac Adolygiad i’w gwblhau erbyn: 31 Mawrth 2025
- Cyhoeddiad Cynllun Datblygu’r Gweithlu: 1 Ebrill 2025
Gwybodaeth Gyswllt
Am ragor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni:
- E-bost: ets@wlga.gov.uk
Mae eich cyfranogiad yn hollbwysig i lwyddiant y cynllun hwn - diolch i chi am gymryd yr amser i gwblhau’r ymgynghoriad hwn.