||

Hyfforddiant gwaith ieuenctid

Dyma grynodeb o’r dewisiadau sydd ar gael i’r rhai hoffai gael hyfforddiant ym maes gwaith ieuenctid yng Nghymru.

Y brif ystyriaeth bob amser yw gofyn a yw’r hyfforddiant yn arwain at gymhwyster mae’r Cydbwyllgor Negodi yn ei gydnabod fel y bydd modd ei ddefnyddio ledled y DG ac Iwerddon.  Efallai y bydd mudiadau megis y Sgowtiaid a’r Geidiau’n cynnig hyfforddiant sy’n drosglwyddadwy yn y mudiad hwnnw.

Dylai darpar fyfyrwyr gofio bod rhaid i staff ieuenctid weithio gyda’r nos a thros y Sul ac y bydd hyfforddiant yn ymwneud â pheth gwaith am yr oriau hynny.


Mae hyfforddiant yn ôl dwy lefel:

1. Gweithiwr ieuenctid cymwysedig – Gradd anrhydeddau (lefel 6) neu

- Diploma ar ôl graddio (lefel 7) sy’n arwain at radd meistr.

BA(Anrh.): 3 blynedd (amser llawn) neu 5/6 blynedd (rhan-amser).  Diploma: blwyddyn (amser llawn) neu 2 flynedd (rhan-amser)

Gwaith ieuenctid fyddai’ch prif yrfa yma, yn ôl yr un statws ag athrawon, gweithwyr cymdeithasol ac ati.

a

2. Gweithiwr cymorth ieuenctid

- Tystysgrif ‘Arferion Gwaith Ieuenctid’:  Lefel 3 (o leiaf 27 o gredydau)

- Tystysgrif ‘Arferion Gwaith Ieuenctid’:  Lefel 2 (o leiaf 26 o gredydau)

I’r rhai fydd yn cynorthwyo gweithwyr ieuenctid cymwysedig (nid eu prif yrfa gan amlaf, ond rhywbeth y gallen nhw ei wneud gyda’r nos yn ogystal â’u prif swydd).


Gweithiwr ieuenctid proffesiynol

Mae rhaglenni cymwysterau proffesiynol ar gael yng Nghymru fel a ganlyn:

Prifysgol Wrecsam, Wrecsam: BA(Anrh.); PgDip (sy’n arwain at radd meistr)

Prifysgol Cymru Casnewydd:  PgDip

Prifysgol Fetropolitan Caerdydd: BA(Anrh.); PgDip (sy’n arwain at radd meistr)

Prifysgol Cymru Coleg y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin: BA(Anrh.); PgDip (sy’n arwain at radd meistr)

At hynny, mae dros 40 o sefydliadau addysg uwch Lloegr yn cynnig rhaglenni cyffelyb.  Mae manylion gan y National Youth Agency (gweler isod).


Gweithiwr cymorth ieuenctid

Mae cyrsiau o’r fath ar gael yn eich bro, a dylech chi gysylltu â gwasanaeth ieuenctid eich awdurdod lleol (mae’r manylion ar ei wefan) i gael gwybod pa hyfforddiant sydd ar gael yn lleol.

Mae llawer o awdurdodau lleol Cymru yn defnyddio cymwysterau Agored Cymru lefel 2 a 3 sydd ar gael trwy Addysg Oedolion Cymru | Adult Learning Wales

Cymwysterau lefelau 2 a 3 gwaith ieuenctid


Mae rhagor o wybodaeth ar dudalen y cwestiynau a ofynnir yn aml am hyfforddiant


 

Mae gan y National Youth Agency lawer o wybodaeth fanwl am ddatblygu’r gweithlu, er mai dim ond i Loegr mae’r rhan fwyaf yn berthnasol.

Rhagor o wybodaeth

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again