Dyddiad postio 15.10.24

Ydych chi'n gwirfoddoli neu'n cael eich cyflogi fel gweithiwr cymorth ieuenctid yng Nghymru? Oeddech chi'n gwybod mai dyddiad cau ar gyfer cymhwyso yw mis Mai 2025?

Dyddiad cau ar gyfer cymhwyso ydi Mai 2025 

 

Bydd angen i’r rhai sydd wedi cofrestru’n hanesyddol gyda CGA gyda chymhwyster lefel 2 gyflawni’r cymhwyster lefel 3 cyn mis Mai 2025. Bydd y rhai nad ydynt yn cyflawni lefel 3 yn cael eu tynnu oddi ar y gofrestr ym mis Mai 2025.

https://www.ewc.wales/site/index.php/en/registration/registration-information-for-employers/registration-information-for-employers-youth-work

 

Cynigia Addysg Oedolion Cymru'r cyfle i chi wneud cais am le ar gwrs fydd yn cael ei hariannu gan fwyaf, i'ch cefnogi i gymhwyso cyn y dyddiad cau yma. Cymeradwyir y cymwysterau hyn gan Safonau Addysg a Hyfforddiant (ETS) Cymru ac maent hefyd yn ofynnol ar gyfer cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) Cymru fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid. Mae’n ofyniad cyfreithiol yng Nghymru fod pob Gweithiwr Cymorth Ieuenctid cyflogedig a gweithredol yng Nghymru wedi’u cofrestru gyda CGA.

Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid (rhan o Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid).

Os oes angen i chi ddechrau eich Hyfforddiant Gweithiwr Cymorth Ieuenctid bydd angen ymgeisio am y Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid.

 

Os ydych wedi cwblhau Cymhwyster Gwaith Ieuenctid Lefel 2 cyn 2020,

bydd angen i chi wneud cais am y Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid.

Tystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid

Os oes gennych y Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid o 2020 - 2025, bydd angen i chi symud ymlaen i gwblhau'r Cymhwyster Gweithiwr Cymorth Ieuenctid llawn, sef y Dystysgrif Lefel 3 mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid.  

Cyrsiau Cyfredol Sydd Ar Gael

Mae Addysg Oedolion Cymru yn cynnig 4 cwrs ar-lein i'ch cefnogi i hyfforddi a chymhwyso erbyn y dyddiad cau ym mis Mai 2025. Ariennir y cyrsiau hyn yn bennaf gan AOC ac, mewn llawer o achosion, efallai mai dim ond ffi gofrestru y bydd angen i chi ei dalu.

Gweler y wybodaeth isod gyda dolenni / codau QR i’n gwefan lle gallwch weld dyddiadau addysgu a gwneud cais yn uniongyrchol i’r cyrsiau byw yma:-

Mae'r Dyfarniad mewn Gwaith Ieuenctid yn cynnwys cyfanswm o 4 uned. Dyma'r 4 uned orfodol gyntaf o'r Cymhwyster Gweithiwr Cymorth Ieuenctid llawn (YSWQ). Gelwir hyn yn Dystysgrif mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid ac mae'n cynnwys 9 uned.

·        Agored Cymru - Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid

o   Cod y Cwrs: Y24R0001A

o   Cenedlaethol - Nos Fercher – 5.00pm - 8.00pm: Hydref 24 - Mawrth 25

o   Agored Cymru Level 2 Award in Youth Work Principles | Adult Learning Wales

o   

·        Agored Cymru - Dyfarniad Lefel 2 mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid

o   Cod y Cwrs: Y24R0003A

o   Ar-lein - Cenedlaethol – Dydd Mercher 9.30am - 4.30pm - Hydref 24 – Chwefror 25

o   Agored Cymru Level 2 Award in Youth Work Principles | Adult Learning Wales

o   

Mae’r Dystysgrif Lefel 3 mewn Gwaith Ieuenctid yn cynnwys 4 uned orfodol ac 1 uned ddewisol. Mae'n rhaid eich bod eisoes wedi cyflawni 4 uned orfodol yn y Dyfarniad mewn Egwyddorion Gwaith Ieuenctid.

·        Tystysgrif mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid Lefel 3

o   Cod y Cwrs: Y24R0002A

o   Ar-lein - Cenedlaethol - Nos Fercher 6.00pm - 9.00pm: Tachwedd 24 - Mehefin 25

o   Certificate in Youth Work Practice Level 3 | Adult Learning Wales

o   

·        Tystysgrif mewn Ymarfer Gwaith Ieuenctid Lefel 3

o   Cod y Cwrs: Y24R0004A

o   Ar-lein - Cenedlaethol - Dydd Sadwrn 9.30am - 4.30pm - Tachwedd 24 - Chwefror 25 (Wythnosol)

o   Certificate in Youth Work Practice Level 3 | Adult Learning Wales

o   

Cofrestrwch cyn gynted â phosibl gan fod lleoedd yn gyfyngedig, gan y cynhelir rhai cyrsiau ym mis Hydref 2024. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch gyda ni drwy anfon e-bost at youthwork@adultlearning.wales

Yn ôl i'r dudalen blaenorol

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again