Preifatrwydd

Mae’r Polisi Preifatrwydd hwn yn nodi sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol. Mae ETS Cymru yn darparu mynediad dienw i ymwelwyr. Gallwch gael mynediad i’r holl gynnwys ar ein gwefan heb fod angen mewngofnodi.

Casglu gwybodaeth yn awtomatig

Fel gyda phob gwefan, mae cofnodion awtomatig, dienw o ba dudalennau sy’n cael eu hagor yn cael eu cadw. Bydd y system gofnodi hefyd yn casglu data amhersonol amrywiol arall (fel system weithredu, porwr neu dechnoleg fynediad arall a ddefnyddir, ac eglurder sgrin o gyfrifiadur pob ymwelydd). Caiff cyfeiriad IP pob ymwelydd ei gofnodi hefyd, ond ni chaiff ei ddefnyddio i adnabod unrhyw ymwelydd yn bersonol. Caiff y wybodaeth hon ei chasglu yn ddata ystadegol dienw yn unig. Ni fydd y system yn casglu unrhyw ddata arall – a bydd y data a gesglir yn aros fel eiddo ETS Cymru a chaiff ei ddefnyddio dim ond ar gyfer dibenion cynnal a gwella’r wefan.

Datgeliad a dewis ymwelwyr

Nid yw ETS Cymru yn storio unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir am unigolion sy’n cael mynediad i wefan ETS Cymru – oni bai lle rydych wedi dewis yn wirfoddol i roi eich manylion personol i ni drwy e-bost, neu wrth holi am unrhyw rai o’n gwasanaethau neu wneud cais amdanynt. Yn yr achosion hyn, defnyddir y data personol rydych yn ei roi i ETS Cymru dim ond ar gyfer darparu’r wybodaeth neu’r gwasanaeth rydych wedi gofyn amdano i chi.

Rhybudd Diogelu Data

Mae ETS Cymru yn trin data personol yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol. Weithiau byddwn yn cysylltu â chi drwy’r post, dros y ffôn, ffurflenni, ffacs, e-bost neu wasanaeth negeseua electronig arall am nwyddau a gwasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi. Trwy ddarparu eich manylion cyswllt i ni, rydych yn cydsynio i ni gysylltu â chi drwy’r dulliau marchnata hyn. Wrth ddarparu gwybodaeth bersonol ar ein gwefan, cewch gyfle i gyfyngu ar y defnydd a wneir o’ch gwybodaeth.

Defnyddio cwcis ar wefan ETS Cymru

Ffeiliau testun bach yw cwcis a roddir ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych yn ymweld â nhw. Maent yn cael eu defnyddio'n eang er mwyn gwneud i wefannau weithio’n effeithlon, ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.

Rydym yn defnyddio cwcis i helpu i gasglu gwybodaeth ddienw am sut caiff ein gwefan ei defnyddio. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i wella ein gwefan a darparu gwasanaeth gwell i’n hymwelwyr. Hefyd, mae’r swyddogaeth cyfryngau cymdeithasol rydym yn ei defnyddio yn gosod cwcis.

 


Datganiad Preifatrwydd Mapio’r Gweithlu Gwaith Ieuenctid yng Nghymru

Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, mae’r hysbysiad hwn yn nodi beth fydd ETS Cymru, fel y corff sy’n cynnal yr holiadur mapio gwaith ieuenctid, yn ei wneud gyda'r wybodaeth a dderbyniai sy’n cael ei chasglu ar ran Llywodraeth Cymru.

Cefndir

Ar hyn o bryd mae bwlch yn yr wybodaeth sydd ar gael yn genedlaethol am y rheiny sy’n ymgymryd â gwaith ieuenctid yng Nghymru yn y sectorau gwaith ieuenctid gwirfoddol, annibynnol ac a gynhelir. Nod yr ymchwil hwn yw cau'r bwlch hwnnw. Drwy’r gwaith hwn mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio gallu deall pwy sy’n darparu gwaith ieuenctid yn well a pha fath o wasanaethau a gynigir ganddynt.

Pa ddata sy’n cael ei gasglu?

Dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) mae data personol yn golygu ‘unrhyw wybodaeth yn ymwneud ag unigolyn adnabyddadwy a allai gael ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn benodol wrth gyfeirio at ddyfais adnabod’.

Fel rhan o'r ymchwil hwn ni fyddwn yn casglu data personol ac eithrio enw, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y sawl sy'n llenwi’r holiadur, er mwyn cynorthwyo gydag ymholiadau dilynol.

Mae’r gwahoddiad i lenwi’r holiadur yn cael ei anfon at restr o sefydliadau sydd â chyfeiriadau e-bost cyhoeddus.

Sut byddwn yn defnyddio’r wybodaeth?

At ddibenion yr ymchwil hwn, bydd yr wybodaeth a dderbynnir yn cael ei chynnwys mewn adroddiad cryno at ddefnydd Llywodraeth Cymru a budd-ddeiliaid cysylltiedig. Ni fydd data personol yn cael ei gynnwys mewn unrhyw gyhoeddiad.

Sut byddwn yn cadw’ch gwybodaeth?

Bydd yr wybodaeth yn cael ei chasglu drwy wefan ETS Cymru. Hwylusir y gwaith casglu data drwy sgript ochr y gweinydd deinamig priodol a chaiff ei gyfleu i'r gweinydd drwy’r protocol HTTPS diogel sydd wedi’i amgryptio. Mae’r protocol hwn yn defnyddio TLS / SSL i amgryptio ceisiadau ac ymatebion HTTP, gan atal trydydd parti maleisus rhag clustfeinio neu ryng-gipio’r cysylltiad. Caiff y safle ei gynnal ar weinydd cwmwl diogel mewn canolfan ddata ganolog yn Llundain, sy’n eiddo i arweinydd gwasanaethau cwmwl byd-eang. Maen nhw wedi cynnal dadansoddiad sylweddol o’u gweithrediadau i sicrhau eu bod yn bodloni gofynion GDPR cyn iddo ddod i rym. Gyda chymorth ymgynghorwyr allanol, maen nhw wedi

adolygu eu cynnyrch a’u gwasanaethau, telerau cwsmeriaid, hysbysiadau preifatrwydd a’u trefniadau i wneud yn siŵr eu bod yn cyd-fynd â’r GDPR. Mae eu gwaith ar breifatrwydd a chydymffurfio yn parhau. Bydd unrhyw ddata perchnogol sy’n cael ei ychwanegu at y ffurflen o’r safle yn aros o fewn y DU / yr Undeb Ewropeaidd drwy gydol yr amser. Yn ogystal ag amgryptiad ‘ar y ffordd’, mae ein gwasanaeth yn defnyddio amgryptiad ‘llonydd’ lle mae’r data sy'n cael ei gyflwyno ar y ffurflen yn cael ei gadw ar ffurf ddiogel wedi’i hamgryptio ar weinydd y gronfa ddata.

Am ba mor hir y bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw?

Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw’n ddiogel am hyd at dair blynedd ac yna’n cael ei dileu.

Manylion cyswllt ar gyfer ymholiadau:

Liz Rose, ETS Cymru, d/o Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5BF

ets@wlga.gov.uk 


Mae rhagor o wybodaeth am gwcis ar gael yn www.AboutCookies.org

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again