Fforwm Darparwyr Cymwysterau Ymarfer Gwaith Ieuenctid
Prif bwrpas y grŵp yw creu llwyfan ar gyfer darparwyr presennol a darpar gymwysterau Lefel 2 / Lefel 3 Gwaith Ieuenctid i drafod materion sy'n ymwneud â chyflwyno a datblygu'r cymwysterau (gan gynnwys arfer da, safoni, newidiadau deddfwriaethol, gofynion y sector a dilyniant dysgwyr).
Mae'r fforwm yn agored i sefydliadau sy'n cyflawni (neu'n bwriadu cyflawni) cymwysterau Lefel 2 a 3 Gwaith Ieuenctid ynghyd â sefydliadau sydd â rôl hanfodol i'w chwarae wrth eu cyflawni. Gellir gwahodd sefydliadau eraill i fynychu yn ôl yr angen i ddarparu diweddariadau penodol ar bynciau perthnasol.
Mae rhagor o fanylion ar gael yn y Cylch Gorchwyl.
Sefydlwyd y grŵp yn 2023 ac mae cofnodion y cyfarfodydd ar gael isod.