Mae’r Archwiliad Sgiliau a Hyfforddiant yn ffurfio rhan o ymarfer peilot i ddatblygu’r gweithlu Gwaith Ieuenctid, ac mae’n sylfaen angenrheidiol i hyfforddi, cymhwyso a pharatoi Gweithwyr Ieuenctid i wasanaethau pobl ifanc Cymru’n fwy effeithiol. Mae’n deillio o argymhellion a wnaethpwyd yn adroddiad y Bwrdd Gwaith Ieuenctid dros dro ‘Mae’n bryd cyflawni’ er mwyn cyflawni model cynaliadwy ar gyfer Gwaith Ieuenctid.

Ym mis Tachwedd 2023, comisiynwyd Data Cymru gan Safonau Addysg Hyfforddiant (ETS) Cymru i gynnal ymarfer casglu data o’r newydd am sgiliau a hyfforddiant. Gofynnwyd i’r Awdurdodau Lleol a mudiadau’r sector Gwirfoddol gymryd rhan. Datblygwyd dau offeryn casglu data; un wedi’i anelu at unigolion ac un i’w gwblhau gan uwch arweinwyr mewn sefydliadau sy’n darparu gwaith ieuenctid yng Nghymru. 

 

Achlysuron i ddod gweld pob seminar a chwrs

Newyddion gweld y newyddion i gyd

By using this site, you accept its use of cookies | Tell me more | I understand & accept, don't display this message again