Cydbwyllgor Negodi
-
Fe gafodd y Cydbwyllgor Negodi dros Weithwyr Ieuenctid a Chymuned ei sefydlu ym 1961 yn sgîl argymhellion Adroddiad Albemarle am wasanaethau i’r ifainc yng Nghymru a Lloegr. Mae ganddo ddwy garfan – y cyflogwyr a’r staff – a fydd yn cwrdd i gytuno ar gyflogau ac amodau a thelerau gwasanaeth gweithwyr ieuenctid.
-
Dyma aelodau Carfan y Cyflogwyr: Cymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyngor Gwladol y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol a Chyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru. Aelodau Carfan y Staff yw Undeb y Gweithwyr Cymuned ac Ieuenctid, Undeb Staff y Prifysgolion a’r Colegau, Undeb yr Athrawon ac Unsain.
-
Cyhoeddodd y Cydbwyllgor Negodi dros Weithwyr Ieuenctid a Chymuned ei adroddiad diwygiedig (y ‘Llyfr Pinc’) yn 2005 a’i ddiweddaru yn 2012. Cytundeb y Cydbwyllgor Negodi yw ei enw bellach. Mae’n cynnwys holl amodau a thelerau gweithwyr ieuenctid a chymuned ac yn trafod materion megis mamolaeth, salwch a statws gweithiwr ieuenctid cymwysedig.
-
Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyflogwyr Llywodraeth Leol a gwefan Undeb y Gweithwyr Cymuned ac Ieuenctid